Tudalen:Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf II.djvu/40

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

grefyddol ag oedd yn gwahanu ac yn crebachu'n tada yn y dyddiau gynt.

O hynn allan, ni a gawn hamdden i ymddadblygu, i wybod, ac i weithio. Ni a allwn bellach weithio yn ddidrwst ac yn ddibryder, am nad ydani ddim yn ofni un genedl, nac yn cenfigennu wrth un genedl arall. Er pann beidiodd y Seuson â bod yn feistried arnoni, y maenw yn frodyr inì; ac fel y mynneni iddyn nhw ymddwyn tuag atton ni, felly yr ymddygwn ninna tuag attyn nhwtha. Ac er ein bod, a ni yn genedl, yn wahanol ein hiaith iddyn nhw, etto, tra bo gynnoni yr un Tad, yr un ffydd, a'r un bedydd, y mae yn ddiamma gynnoni y gallwn ni a nhwtha gyttuno â'n gilidd yn Ynys Prydan bronn cystal ag y cyttunwn ni â'n gilidd ar ôl hynn yn y gorphwysfaodd llonydd sydd o dann y dywarchen werdd, ac yn y Breswylfa Heddychlon sydd y tu hwnt i'r wybren las.