Er hynny, bychan a fu ei llwyddiant-hi mewn gwledydd gwareiddiedig wrth ei llwyddiant yn Lloiger. Ono yr ymgododd-hi, a gwedd Seisnigadd oedd iddi; a chann fod gwerin bobol y wlad honno yn ymhoffi yn ddirfawr mewn boesach ac ymladd, ac mewn pob math o chwara garw yr oedd-hi'n gweddu iddyn nhw yn fwy nag i un genedl arall. Y mae'n wir y medrodd hitha, trwy drafferth, gynhyrfu dynion i'w herlid ar y cynta; ond yr oedd-hi'n porthi nwyda Seisnig yn rhy dda i gael ei herlid yn hir; felly, pann aeth-hi'n fawr, fe droes y rhann fwyaf o'i melltithwyr i'w bendithio; canys y mae'n hysbys ichi fod y Seuson erioed yn mawrygu llwyddiant, pa un bynnag a fyddo-fo ai llwyddiant teg ai amgen.
Heb law hynny, yr oedd y Cad-lywydd Wolseley, a gwŷr rhyfelgar erill, wrth weled fod yn anos cael dynion i ymuno â byddin a llynges Lloiger nag a fyse cynn hynny, yn teimlo na allen nhw neyd dim yn well na chefnogi plaid o grefyddwyr oedd yn llafurio mor effeithiol i gadw'n fyw yr ysbryd milwrol yn y wlad, ac i ddiscyblu rhiwfaint ar yr euloda.. Hefyd, yr oedd bleunoried ambell gyfundeb yn mynd o'u ffordd i gammol y Fyddin, gan obeithio trwy hynny ei hudo-hi yn y mann i'w corlan eu hun. Y mae'n ddiogel imi gyfaddef yn awr mai er mwyn ei amcanion ei hun ac nid o gariad at y Fyddin yr oedd y Prif-archeseob Manning yn ei chefnogi—hi; er y gallase fo ddadla yn ddiragrith ei fod-o'n rhwymedig i'w chefnogi cynn gynted ag y derbyniodd-hi y Cynllun Cymrodol a ddarparse fo'i hun.
Dyma beth arall a naeth y Fyddin yn gymmeradwy gann lawer, sef, fod lliaws o'i swyddogion-hi yn feniwod. Pann y bydde'r rhain yn ifingc, yn ddibriod, ac yn deg yr olwg, fe fydde'r