Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/104

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwyliai Mr. Luxton storm fwy y tro hwn. Clywsai ef ddigon o sôn am stormydd mawr y Trofannau. Ofnai weld hon yn torri.

"Rhaid i ni roddi digon o fwyd a llond ein llestri o ddŵr yn yr ogof. Bydd yn well i ni beidio â gadael dim o'n heiddo yn y tŷ. Pa le mae Madame? Dywedasant wrtho mai cysgu yr ydoedd.

"Ewch i'w galw, Myfanwy, ond peidiwch â'i dychrynu. Nid oes amser i'w golli."

Newidiodd gwedd y ffurfafen yn sydyn. Aeth hyd yn oed y lagŵn yn llwyd a chynhyrfus. Deuai tonnau mawr dros y rhibyn. Hedai miloedd o adar o rywle, yn wyllt yn yr awyr. Crynai'r coed. Yr oedd golwg ofnus ar anian i gyd.

Yr oedd yn dda iddynt fod ganddynt ogof i ymguddio ynddi yn ystod y ddeuddydd dilynol. O'r de-ddwyrain y chwythai'r storm. Nid oedd yn hollol gyferbyn â genau'r ogof neu buasai'n waeth fyth arnynt. Yr oedd rhu'r môr a'r gwynt yn fyddarol. Gwelent hyrddio dail a changau a cherrig ac adar, a hyd yn oed goed cyfain heibio genau'r ogof. Ofnent y syrthiai'r graig arnynt. Ofnent weld y môr gwyllt yn rhuthro dros y rhibyn tuag atynt.

Tua hwyr yr ail ddydd llonyddodd y gwynt. Cliriodd yr awyr a daeth y sêr i'r golwg. Parhai'r môr yn arw iawn o hyd. Mentrasant allan am ychydig yn y tywyllwch. Dychwelasant yn fuan i dywyllwch mwy yr ogof. Cysgasant yn drwm y noson honno. Pan aethant allan yn y bore, gwenai'r haul a gwenai'r môr fel pe na bai dim wedi bod.