Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/103

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

am ddull y Ffrangwyr o fyw. Efallai bod cwmni'r plant yn fendith hefyd i'r rhai hynach. Yr oeddynt mor barod i ddysgu ac mor hawdd eu trin. Anghofient ofidiau'r gorffennol a phryderon y dyfodol yn hyfrydwch eu bywyd ar y pryd.

Yr oedd eu Saesneg eisoes yn llawer mwy graenus a choeth, a dysgai Myfanwy y Ffrangeg yn gyflym.

Yr oedd enwau erbyn hyn ar wahanol rannau'r ynys. Y plant a gafodd y fraint o ddewis yr enwau. "Y Neuadd" oedd eu cartref. Galwasant y rhan o'r traeth o flaen yr ogof a'r Neuadd yn "Bordeaux." Gwyddent mai "Glandwr" yw ystyr yr enw hwnnw, a disgleiriodd llygaid Madame D'Erville pan glywodd eu dewisiad. Un afon oedd yno, felly yr oedd "Yr Afon" yn ddigon o enw iddi. "Stratford-on-Avon" oedd y lle tlws ger y ffynnon,—enw tref enedigol Mr. Luxton. "Brynteg" oedd y bryn hir. "Pen y Bryn" oedd y pigyn. "Glyn y Groes" oedd y llannerch ar ochr y Gogledd lle'r oedd olion y deml.

"Yr Ynys" oedd yr ynys iddynt am amser hir wedi enwi ei gwahanol rannau. Pump oeddynt yn byw arni. Ynglŷn â'r ffaith honno daeth i feddwl Gareth o rywle yr enw "Llanpumsaint." Ar warr hwnnw daeth syniad arall. Awgrymodd alw'r ynys yn "Ynys Pumsaint." Derbyniwyd yr enw gyda brwdfrydedd a chwerthin.

"Ofnaf fod storm yn dyfod," ebe Mr. Luxton pan ddaethant ato. "Rhaid i ni baratoi ar ei chyfer."

Cawsent genllif o law ac ychydig fellt a tharanau ddwywaith yn ystod y ddeufis, Amlwg oedd y dis-