y twll, a'r cerrig poeth ar ei ben. Cyneuent dân wedyn ar ben y cerrig.
Wedi methu â'u bodloni eu hunain â'u dull arferol o goginio, a bwyta eu cig lawer tro yn hanner llosg neu yn hanner amrwd, rhoisant braw ar ddull y brodorion. Dyna welliant! Yr oedd y cig wedi ei bobi drwyddo'n hyfryd. Cadwasant at y cynllun hwnnw o hynny allan. Weithiau, coginient fara, tatws, a yam yn yr un tân, ond wedi eu lapio ar wahân, wrth gwrs. Yr oedd y lle tân yno'n barod bob amser, a digon o danwydd wrth law.
Os nad oedd llestri ganddynt at goginio yr oedd ganddynt ar silff o graig yn yr ogof restr hir o lestri bwyta. O ba le y daethent? Ffiolau bychain oedd llawer ohonynt wedi eu gwneud o'r cnau coco. Torrid y gneuen aeddfed yn eu hanner, ac â'r gyllell tynnid allan y bywyn gwýn caled. Yr oedd y ffiolau hyn yn ddefnyddiol iawn i ddal llaeth a lemonêd. Rhai tebig ond mwy eu maint oedd ffrwyth y pren calabash. Defnyddient y rhai hynny yn lle dail i ddál eu bwyd. Gwnaeth y bechgyn ryw fath o lwyau o'r un ffrwyth. Dan gyfarwyddid Mr. Luxton y gwnaed y cwbl. Yr oedd yn dda iddynt i gyd ei fod ef yno gyda hwynt, a'i fod wedi darllen a dysgu cymaint ar hyd ei fywyd.
Dysgodd Llew a Gareth a Myfanwy lawer o bethau eraill gan Mr. Luxton a chan Madame d'Erville hefyd. Ni flinai Mr. Luxton egluro iddynt ryfeddodau natur a hanes y byd. Ni feddent lyfrau, ond yr oedd meddwl a chof Mr. Luxton fel llyfrgell gyfan. A dyna ddiddorol oedd hanesion Madame am ei chartref ac