Er holl anfanteision y lle teimlai'r plant fod bywyd ar yr ynys yn hyfryd iawn. Yr oeddynt wedi llwyr fwynhau'r ddeufis a aethai heibio. Dygai pob dydd ei fenter a'i wefr iddynt. Yr oedd rhywbeth newydd i'w weld o hyd. Nid oedd un dydd yn hollol fel y llall. Ni wyddid pa ddydd y digwyddai rhywbeth rhyfedd. Yr oedd swyn hyd yn oed mewn ansicrwydd ac ofn. Yr oedd eu dull o fyw fel rhyw bicnic parhaus.
Erbyn hyn caent fwy o amrywiaeth yn eu bwydydd. Heblaw pysgod, bara, tatws, yam, cnau, afalau, orennau, lemonau, bananau a ffrwythau ereill, cawsant un diwrnod wledd o wyau crwban. Hefyd, yr oedd Mr. Luxton a'r bechgyn wedi llwyddo i wneud bwa a saeth a dysgu saethu ag ef. Yr oedd ar yr ynys ryw aderyn tebig i ysguthan. Wedi ei brofi unwaith a'i gael yn flasus iawn aent allan yn fynych i hela, a chawsant lawer swper flasus o gig ysguthan a digon o datws. Helbulus, er hynny, oedd y gwaith o'i goginio am nad oedd llestri ganddynt at y pwrpas. Medrent rostio pysgod yn ddigon rhwydd ac nid oedd prinder pysgod bwytadwy yn y lagŵn.
Un diwrnod, cofiodd Mr. Luxton yn sydyn am ddull brodorion Ynysoedd Môr y De o goginio moch a phethau eraill. Gwnaent dwll yn y ddaear a chyneuent dân mawr ynddo. Pan fyddai'r tân ar ei eithaf, taflent gerrig iddo,—ychydig neu lawer yn ôl maint y tân a maint y peth y mynnent ei goginio. Ar ôl i'r cerrig boethi, tynnid hwy allan. Yna dodid y cig, wedi ei lapio'n barod mewn dail bananau, i mewn yn