Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/100

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Chwerddwch neu beidio, y mae'n rhaid i mi ddweyd wrthych beth a welais."

"Nid oes chwerthin yn agos ataf i," ebe Gareth. "Na finnau," ebe Llew, "Rwy'n cofio dy freuddwyd di am yr ogof."

"Prin y gallaf alw hwn yn freuddwyd," ebe Myfanwy. "Yr oedd yn debycach i ddarlun. Yn sydyn, heb i neb siarad â mi am ddim, daeth o flaen fy llygaid ystafell. Ni wn i ddim ym mha le yr oedd. Nid wyf yn cofio dim o'r pethau oedd ynddi ond bod yno ffenestr a'r môr yn y golwg drwyddi. Yn un pen i'r ystafell yr oedd nhad a mam a tithau Llew a finnau. Yr oedd gwallt nhad yn wýn fel gwlan a finnau'n tynnu fy mysedd drwyddo. Yn y pen arall gwelwn di, Gareth, a dy fam a'i breichiau am dy wddf, a dy dad yn edrych arnoch a dagrau ar ei ruddiau, ac yn dweyd, 'Ble mae Gwen?' Dyna beth wnaeth i mi ddihuno. Dim ond am eiliad fel fflach y daeth y cwbl o'm blaen, ond mi gofiaf y darlun am byth, ac fe ddaw i ben."

"Beth yw dy feddwl?" ebe Llew.

"Meddwl wyf bod ein rhieni ni'n fyw, ac y cawn eu gweld eto, a bod Gwen wedi boddi." "O, hisht, Myfanwy!" ebe Gareth.

"Dacw Mr. Luxton yn dod yn ôl," ebe Llew.

Aeth y tri i gyfarfod ag ef. Ni chawsant amser y dydd hwnnw i feddwl rhagor am y breuddwyd. Anghofiodd y bechgyn ef gyda llawer o freuddwydion eraill a adroddasai Myfanwy wrthynt. Ni soniodd Myfanwy, chwaith, am dano drachefn. Cadwodd ef yn ei chalon yn belydryn bychan o oleu ar y dyddiau tywyllaf.