Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/108

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Torrai'r tonnau dros un pen i'r llong, a'r pen arall yn rhwym mewn agen yn y graig gwrel. Yr oedd ei henw mewn llythrennau gwýnion ar y pen hwnnw,— "Câro Carey." Gellid meddwl ei hyrddio i'r agen gyda'r fath rym ofnadwy fel nad oedd obaith iddi ddyfod oddiyno ond bob yn ddarn fel y dryllid hi gan y tonnau. Yr oedd yn ddigon posibl fod rhywun arni. Edrychasant yn ofalus ond ni welsant argoel am neb. Gwaeddasant yn uchel lawer gwaith. Ni ddaeth ateb. Os oedd rhywrai arni yr oeddynt yn anymwybodol neu yn farw.

Sut oedd mynd iddi? Er eu bod hwy ar y rhibyn, yr oedd y llong wedi ei dál yn y fath fodd nes ei bod yn rhy uchel iddynt fedru dringo iddi. Nid oedd lle i roddi troed yn unman ac nid oedd rhaff gyfleus yn hongian ohoni fel y cawsai Robinson Crusoe gynt. O'r diwedd daliasant ar gynllun. Dywedodd Llew os cai ef sefyll ar ysgwyddau Gareth, ac yntau i sefyll ar fin y dŵr, y gallai ef afael yn ymyl y llong a thynnu ei hun i fyny arni. O! yr oedd yn waith. peryglus. Pe symudai Gareth fodfedd, i lawr yn y dŵr y byddai Llew. Cydiodd Mr. Luxton yn llaw Myfanwy a hithau yn llaw Madame, a rhoddodd Mr. Luxton ei law arall i Gareth, fel y gallent ei ddál rhag syrthio pan neidiai Llew oddiar ei ysgwyddau. Dalient eu hanadl. A! dyna ysgytiad i'r gadwyn, a dyna Llew ar fwrdd y llong.

Aeth o'r golwg am rai munudau hir. Dyna falch oeddynt ei weld drachefn a'i glywed yn gweiddi: "Ni welaf i neb yma."