Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/109

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Neb?" ebe Mr. Luxton mewn syndod. "Neb? Na byw na marw?"

Aeth Llew o'r golwg drachefn. Daeth yn ôl yn fuan a thaflu rhaff gref dros ymyl y llong, a dywedyd:—

"A ellwch chwi ddod i fyny, syr? Mae'r rhaff yn eithaf diogel."

Dringodd Mr. Luxton y rhaff fel morwr.

Aeth y ddau o'r golwg am ysbaid. Pan ddaethant yn ôl yr oedd ysgol ganddynt, nid un wedi ei gwneud o raffau, ond ysgol bren gref.

"Madame," ebe Mr. Luxton, "a garech chwi ddyfod i fyny? Gellwch ddyfod yn hawdd ar yr ysgol."

"O, mi garwn i ddod," ebe Myfanwy.

"Y mae yn eithaf diogel yma, ac nid yw'r llong yn symud," ebe Llew.

"Ac nid oes neb yna?" ebe Madame. "Neb," ebe Mr. Luxton.

Rhoddwyd yr ysgol yn ei lle. Aeth Madame i fyny yng nghyntaf. Dywedodd "Mon Dieu!" lawer gwaith ar y ffordd. Yna aeth Myfanwy i fyny'n sionc a Gareth yn olaf. Tynasant yr ysgol i fyny ar eu hôl.

Yn aml mewn bywyd y mae'r peth sydd yn ffawd i un yn anffawd i arall. Collasai rhywrai y llong hardd hon a'r pethau oedd arni, ac yn dra thebig, eu bywydau hefyd. Golygai hynny ychwanegiad mawr at gysuron y pum alltud a edrychai o'u cylch rhwng prudd—der a llawenydd ar fwrdd y Câro Carey yn awr. Teimlent weithiau fel ysbeilwyr o bethau