Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/110

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cysegredig. Anodd oedd ganddynt gymryd meddiant felly o eiddo arall. Ond os na chymerent hwy feddiant ohonynt gwnai'r môr hynny'n fuan iawn.

Nid oedd dim ar y dec ond y darn rhaff a gawsai Llew o rywle. Wedi mynd i lawr dros risiau daethant ystafell wely fechan hardd. Yr oedd y gwely yn wýn a glân, a llenni o sidan coch yn hongian drosto. Yr oedd drych mawr hir ar un o'r cypyrddau. Cafodd Madame a Myfanwy fraw a chywilydd pan gawsant lawn olwg arnynt eu hunain ynddo. Yr oedd ystafell arall tuhwnt iddi, ond pen peryglus y llong oedd hwnnw, a gwelsant nad gwiw mynd i honno. Daethant yn ôl i'r dec ac i lawr drwy risiau eraill. Cawsant eu hunain yn y gegin. Yr oedd yno bob math o lestri defnyddiol a digon o fwydydd, ac yr oeddynt heb eu niweidio gan y môr a'r tywydd.

"Gwell i ni fynd â'r pethau hyn i'r cwch ar unwaith," ebe Madame, yn wyllt.

"Ie, nid oes amser i'w golli," ebe Mr. Luxton.

Cydiodd pob un mewn dysgl neu badell neu sospan neu degell a'u llanw ag unrhyw bethau oedd yn eu cyrraedd. Yr oedd yno bob math o fwydydd mewn tiniau, cawl, llaeth, cig, pysgod, teisennau, bisciau, te, coffi, siwgr, blawd, a lawer o bethau eraill. Llanwodd Myfanwy badell fawr â llestri te, a thebot yn eu plith. Gwnai un neu arall ohonynt ddarganfyddiad diddorol bob munud. Cafodd Gareth gist o offer Cafodd Mr. Luxton lyfrau a dillad yn ystafell y capten. Daeth Madame a Myfanwy â llawer coflaid o drysorau o'r ystafell wely hardd, a chafodd Llew