Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/111

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

flwch mawr trwm a'i lond o gyllyll a ffyrc a llwyau. Yr oeddynt yn rhy brysur i gofio bod eisiau bwyd arnynt.

Rhag i'r nos ddyfod a'u cael yn amharod, penderfynwyd mai gwell a fyddai cael rhai pethau i'r lán. Gwaith anodd iawn a fu llwytho'r cwch, yn enwedig â'r pethau trwm. Y ddau fachgen a aeth â'r cychaid cyntaf. Yn lle mynd yr holl ffordd i "Bordeaux," barnwyd mai gwell a fyddai iddynt lanio mor agos ag y gallent gyferbyn â'r llong. Nid oedd eisiau ofni gwynt a glaw y diwrnod hwnnw, ac nid oedd anifeiliaid rheibus ar yr ynys, felly, gellid gadael y nwyddau gwerthfawr ar y traeth nes cael cychaid neu ddau eraill atynt, a mynd â hwy i "Bordeaux" drannoeth. Daeth Madame a Myfanwy i dir gyda'r ail gychaid, a Llew yn eu rhwyfo. Yna aeth Llew yn ôl ei hun, a gorchmynnwyd i'r tri ddyfod gyda'r cychaid nesaf.

Yna bu'r ddwy yn brysur iawn. Cyneuodd un dân. Aeth y llall i hôl dŵr. Gwyddent erbyn hyn am bob ffrwd ar yr ynys.

Ymhen hanner awr daeth y tri eraill atynt, ac yr oedd pryd da o fwyd yn eu haros. Dwy gist yn ymyl ei gilydd oedd y ford. Yr oedd lliain gwýn, glân, a llestri arni. Dyma'r Menu:—

  1. Cawl a bisciau.
  2. Cig eidion a bara.
  3. Ffrwythau'r ynys.
  4. Coffi.