Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/115

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Ie, ac yna rhaid i ni dreio gwneud rhywbeth i'w droed," ebe Mr. Luxton.

Ci bach bach gwýn ydoedd, a chlustiau bach duon a mannau duon ar ei dalcen a'i goesau. Pen bach main oedd ganddo, a llygaid mawr, hiraethus. Yr oedd ei got yn llyfn fel sidan. Am ei wddf yr oedd coler bach ffôl o ruban glâs, a'r gair "Socrates" mewn sidan coch wedi ei weithio ynddo ag edau a nodwydd. Edrychai arnynt yn erfyniol, a chwyno, a llyfu ei droed bob yn ail.

Cafodd Gareth laeth o rywle. Yfodd Socrates yn helaeth ohono. Yna edrychodd Mr. Luxton ar ei glwyf. Nid oedd asgwrn wedi ei dorri. Tebig mai sangu ar rywbeth miniog a wnaethai nes torri'r pad o dan ei droed a cholli llawer o waed. Rhwymodd Mr. Luxton hi yn ofalus a chadach poced glân oedd gan Madame. Gwnaed lle esmwyth iddo i orwedd nes deuai'r amser i fynd i dir. Diddanodd Madame a Myfanwy ef â llawer o eiriau mwynion.

Gweithiasant yn galed y diwrnod hwnnw. Daethant â llawer o gistiau a blychau a pharseli i dir heb wybod eu cynnwys. Caent ddigon o amser at hynny eto. Pan ddaeth yr hwyr nid oedd dim ar ôl ond y llong ei hun. Drannoeth bu Mr. Luxton a Llew a Gareth yn brysur gyda bwyell a llif a mwrthwl. Gwaith anodd oedd diogelu darnau'r llong i gyd. Collasant lawer o ystyllod gwerthfawr, ond gobeithient y dygai'r llanw'n raddol lawer ohonynt i dir.

Yna dechreuwyd ail-lwytho'r cwch. Un cwch oedd ganddynt o hyd. Yr oedd cychod y Caro Carey wedi