Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/116

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

eu hysgubo ymaith. Buwyd yn "Bordeaux" ac yn ôl lawer gwaith nes cario'r nwyddau gwerthfawr yno i gyd. Yr oedd yn dda fod yr ogof ganddynt erbyn hyn. Dyna waith pleserus oedd trefnu'r pethau yn honno, a gweld y fath ystôr oedd ganddynt! Yr oedd yno bob math o bethau at eu cynnal,—te a choffi, ymenyn, a hyd yn oed ychydig dorthau o fara. Yr oedd yno hefyd sacheidiau o flawd a burym. Ni fedrai Madame na Myfanwy wneud bara, ond gwelsai Myfanwy ei mam yn ei wneud. Addawodd y ddwy ceid yno fara ffres braf ryw ddiwrnod. Ni wyddent eto pa beth oedd cynnwys y cistiau dillad. Er cymaint o'u heisiau oedd arnynt ni fynnent ruthro ar y pethau hynny. Yr oeddynt yn llawer mwy hŷ gyda'r bwydydd. Herciai Socrates o'u cylch ar deirtroed. Yr oedd mor falch o gael ei hun ar dir ac mewn cwmni nes y gellid meddwl ei fod wedi llwyr anghofio y rhai a fu'n annwyl ganddo o'r blaen.

Penderfynasant adeiladu tŷ. Yr oedd hwn i fod yn dŷ sylweddol, nid rhywbeth simsan fel y llall. oedd ganddynt offer at eu gwaith erbyn hyn, a phrennau ac ystyllod y llong, ac yr oedd digon o goed yn y wig. Gallent bellach dorri a llifio'r rheiny. Treuliasant amser yn penderfynu ar le cyfaddas ac yn tynnu cynlluniau. Y pwnc mawr oedd cael lle diogel mewn storm.

"Oni hoffech fyw yn 'Stratford'?" ebe Madame wrth Mr. Luxton.

"Byddai hwnnw'n lle hyfryd i fyw ynddo," ebe 'Mr. Luxton, "ond y mae mor bell o'r môr ac o'r ogof,