Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/117

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

medrem gario ein holl nwyddau yno? Peth arall, credaf y dylem fyw yn rhywle yng ngolwg y traeth. Gwyddoch paham. Hefyd, dylem fod yn agos i'r ogof, gan ei bod yn lle mor gyfleus i gadw ein bwyd a'n cadw ninnau pan fyddo taro."

Wedi chwilio am dipyn, trawsant ar fan cyfleus i mewn yn y wig tua hanner canllath o'r traeth a'r ogof. Yr oedd yn weddol gwastad, ond byddai cryn waith clirio'r coed a'r prysgwydd a dyfai arno. Byddai coed ganddynt wedyn yn gysgod ar bob tu, a thrwy fynych gerdded gallent gadw llwybr rhyngddynt â'r traeth.

Wedi llawer o ymgynghori penderfynwyd ar gynllun y tŷ. Tynnodd Gareth blan ohono ar bapur. Bungalow mawr oedd i fod gydag un ystafell eang at eistedd a bwyta. Yr oedd ganddynt ford a thair cadair. Gwnaethant sedd hir arall o fôn pren. Tu ôl i'r ystafell hon byddai tair ystafell wely,—un i Mr. Luxton, un i'r ddau fachgen ac un i Madame a Myfanwy. Buont mewn penbleth ynghylch lle tân. Peryglus oedd cynneu tân ynghanol y coed. Penderfynasant gloddio twll yn y ddaear, a chodi mur bach o gerrig o'i gylch, a gwneud y tân yn y twll. Os byddai eisiau tân mawr arnynt at ryw bwrpas arbennig, gallent ei wneud ar y traeth.

Ystyllod oedd muriau'r tŷ i fod, a mur y cefn tua throedfedd yn uwch na mur y ffrynt. Rhoddid prennau wedyn o un mur i'r llall a dail drostynt. Byddai'r tô felly ar oledd, fel y gallai'r glaw lifo dros y dail yn lle aros arnynt a disgyn drwyddynt i'r tŷ.