Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/118

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gwnaethant hefyd agoriad yn y tô, fel drws mawr, i'w gadw'n agored yn y dydd a'i gau yn y nos. Caent felly ddigon o awyr a goleu i'r tŷ er ei fod ynghanol y coed.

"Y Neuadd" fyddai ei enw wrth gwrs. Ysgrifennodd Gareth ei gyfeiriad yn llawn ar waelod y plan:—

"GARETH RHYS,
Y NEUADD,
BORDEAUX,
YNYS PUMSAINT."

Buont yn brysur iawn bob dydd am wythnosau, y dynion gyda'r adeiladu a Madame a Myfanwy yn paratoi'r bwyd ac yn gwnio'r dillad. Bu'r gwaith caled yn fendith iddynt. Anghofiasant lawer o'u pryder a'u hiraeth a'u hofnau. Yn ystod yr amser hwnnw digwyddai pethau pwysig ar yr ochr arall i'r ynys.