Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/122

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gan fod ffenestr yn y tô caent ddigon o oleu am awr wedi cinio i eistedd gyda'i gilydd i siarad neu ddarllen. Fynychaf, byddai un yn darllen a'r lleill yn gwrando. Nofelau Saesneg oedd y rhan fwyaf o'r llyfrau a gawsent o'r llong. Yr oedd yno un nofel Ffrangeg,—Le Crime de Sylvestre Bonnard. Medrai Myfanwy ddarllen honno gyda help Madame. Yr oedd pob un ohonynt wedi darllen rhai o'r llyfrau eraill, ac yr oedd Gareth wedi tynnu llawer o luniau. Yr oedd byw'n barhaus yng nghwmni Madame D'Erville a Mr. Luxton cystal â blynyddoedd o ysgol i Llew a Gareth a Myfanwy.

"Ni fuom yng Nglyn y Groes er ys tro bellach. Sut hoffech fynd yno yfory i edrych a gawn ychwaneg o berlau?" ebe Mr. Luxton.

"Glyn y Groes!" ebe Myfanwy, a sylwodd Llew ar y lliw sydyn a ddaeth i'w hwyneb.

"Rwy'n siwr bod Myfanwy wedi breuddwydio rhywbeth am 'Glyn y Groes'," ebe ef wrtho'i hun. Ond ni ofynnodd iddi ac ni ddywedodd hithau ddim. Yr oedd y bechgyn wedi poeni Myfanwy am na freuddwydiasai ddim am beth mor bwysig â dyfodiad y Câro Carey, a breuddwydio pethau eraill nad oedd argoel y deuent byth i ben. Felly peidiodd Myfanwy ag adrodd ei breuddwydion wrth rai mor anghrediniol.

Bwriadent Cychwynasant yn fore drannoeth. dreulio'r dydd yn gyfan ar hyd y traeth gyferbyn â "Glyn y Groes." Yno y cawsent y rhan fwyaf o'r perlau oedd ganddynt. Gweld y perlau yng ngwallt