Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/123

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Madame ac ar wddf Myfanwy a wnaethai i Mr. Luxton feddwl am fynd yno.

Pan lithrent yn hamddenol ar y lagŵn i gyfeiriad 'Glyn y Groes," cyfarthodd Socrates yn sydyn, a bu agos iddo â neidio allan o'r cwch. Gwelodd y pump rywbeth a wnaeth i'w calonnau guro'n wyllt. Edrychent yn sýn ar ei gilydd heb fedru dywedyd gair. Rhywun oedd yn rhedeg ar y traeth,—rhedeg yn wyllt oddiwrthynt, dyfod yn ôl drachefn tuag atynt, yn aros gyferbyn â'r cwch ac yn bloeddio rhywbeth mewn iaith annealladwy. Merch fach ydoedd, heb ddim am dani ond pais wedi ei gwneud o ddail. Yr oedd ei chroen fel eboni, a'i gwallt trwchus yn sefyll allan yn syth fel brwsh mawr ar ei phen, a dail a blodau wedi eu plannu ynddo.

Yr oedd yn olygfa arswydus. Daethant â'r cwch i'r lán. Syllai'r ferch arnynt heb ddywedyd gair. Edrychai'n barod i redeg oddiwrthynt mewn eiliad i ben draw'r byd. Daliai Llew Socrates yn dýn. O'r diwedd cafodd Madame eiriau allan.

Pwy ydych?" ebe hi yn Saesneg.

Deallodd y ferch hi, ac atebodd "Me Mili."

"O ba le y daethoch chwi yma?" ebe Mr. Luxton. "Mili live away where sun rise. Me here one moon, two moon, tri moon."

Yna holodd pob un hi. O'i hatebion hanner dealladwy daethant i wybod ychydig o'i hanes.

O ryw ynys neu wlad tua'r Dwyrain y daethai. Yr oedd cenhadwyr yno. Aethai hi atynt. Digiodd