Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/132

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Rhedodd Mr. Luxton a'r bechgyn i gyrchu'r cwch a mynd hyd at y rhibyn i aros dyfodiad y llong. Rhedodd Madame a Myfanwy a Mili i'r tŷ i roddi'n barod rai pethau y dymunent eu cario gyda hwy,— y perlau bid siwr, a thrysorau eraill. Methai Socrates â deall pa beth oedd yr holl helynt.

Gollyngwyd cwch o'r llong a thri swyddog ynddo. Nid gwiw dyfod â'r llong ei hun yn rhy agos at y creigiau cwrel. Agerlong o Sydney ydoedd. Gyresid hi gan y storm ymhell o'i chwrs. Wedi cyrraedd pen ei thaith a newid llwyth dychwelai ar unwaith i Sydney. Sais oedd y capten. Wedi gwrando stori Mr. Luxton dywedodd y byddai'n bleser ganddo eu cludo i Sydney. Gan fod y llong wedi colli cymaint o amser eisoes dymunai arnynt fod yn barod ymhen hanner awr.

Cario nwyddau oedd gwaith y llong yn bennaf, ond yr oedd rhai teithwyr ynddi. Cafodd y pump alltud a Mili a Socrates groesaw mawr. Golwg ddigon rhyfedd oedd arnynt i gyd. Gwrandawyd gyda diddordeb ar eu stori. Yn ffodus, ni ofynnwyd iddynt a oedd perlau ar yr ynys, ac ni ddywedasant hwythau ddim ar y pen hwnnw. Bwriadai Llew a Gareth ddyfod i Ynys Pumsaint drachefn ryw ddydd.

Trwy ddefnyddio ei offerynnau ac astudio mapiau, dangosodd y capten iddynt safle'r ynys yn gywir. Byddai'n hawdd dyfod o hyd iddi mwy. Edrychodd y pump arni'n hir nes iddi fynd o'u golwg dros y gorwel.