Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/134

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Aeth Mili gyda Madame i fod yn forwyn fach iddi ym Melbourne. Yno yr aeth Socrates hefyd, oherwydd, o'r pump, Madame oedd ei ffrind pennaf ef.

Ymhen deuddydd hwyliodd Mr. Luxton o borthladd Sydney. Yr oedd ei deulu bach yn ei ddisgwyl yn Lloegr. Yr oedd wedi llwyr adfeddiannu ei iechyd ac yr oedd ganddo bellach ddigon o gyfoeth fel y gallai ymddiswyddo o'r ysgol bryd y mynnai. Er mwyn ad-dalu iddo yr arian a roisai iddynt i brynu dillad, gwnaeth Llew iddo dderbyn un o'i berlau ef. Gwerthwyd hwnnw am bedwar ugain punt. Ni fynnai neb ohonynt ddangos i'r byd fod ganddynt ychwaneg o berlau, rhag tynnu ei sylw at Ynys Pumsaint. Yr oedd ganddynt hawl i'w cyfrinach. A barnu oddiwrth yr un perl hwnnw yr oedd eiddo pob un ohonynt yn werth o leiaf bum mil o bunnoedd. Heblaw hynny yr oedd ganddynt ddarnau gwerthfawr o gwrel.

Noson ryfedd a fu honno yn Number 17. Stori ryfedd oedd gan y rhieni hefyd. Pan drawodd y Ruth Nikso ar y graig arhosasant hwy a llawer eraill ar y llong. Trwy waith caled y morwyr llwyddwyd i'w chadw rhag suddo, a daeth llong arall heibio iddynt gyda'r dydd. Aeth honno â hwy yn ddiogel i Sydney. Pe bai pawb wedi aros ar y bwrdd buasai pawb yn ddiogel. Buont bron â marw eu hunain pan welsant fod eu plant ar goll. Nid oeddynt yn ddigon calonnog i fynd i'r wlad a chymryd ffarm. Ni fynnent fynd o Sydney. Cawsant dŷ yn wynebu