Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/135

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ar y môr. Treuliodd y ddwy fam a'r ddau dad hefyd lawer awr i syllu arno fel pe disgwylient iddo ddywedyd wrthynt pa beth a wnaethai â'u plant. Cafodd Meredydd Llwyd waith saer yn un o'r dociau, a chafodd Ifan Rhys waith labrwr yn yr un lle. Yr oeddynt yn rhy siomedig a diynni i chwilio am waith gwell. Nid oedd llawer o olwg ganddynt ar eu cartref, chwaith. Rhyw hanner cartref oedd i bob un ohonynt. Ni theilyngodd yn eu meddwl enw gwell na "Number 17."

Y mae amser gwell o'n blaen i gyd," ebe Llew. "Bydd yn dda gennych eto, Nwncwl Meredydd, eich bod wedi dyfod i Awstralia," ebe Gareth.

"Wn i ddim, yn wir, fachgen," ebe Meredydd Llwyd yn drist.

"Nhad bach, edrychwch!" ebe Myfanwy, a dyna'r pryd y dangosasant eu perlau.

Ni wyddai'r rhieni pa beth i'w feddwl pan glywsant beth oedd gwerth y perlau, a chlywed bwriadau'r tri am y dyfodol. Yr unig beth a dorrai ar eu dedwyddwch oedd yr ansicrwydd ynglyn â Gwen. Wylai Mrs. Rhys yn enbyd.

"O Anna!" meddai wrth ei chwaer. "Yr wyt ti'n hapus. O na chawn innau fy merch fach yn ôl!"