Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/136

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

XXI

Mi, fu'n hiraethu amdanat, heb obaith, daethost hyd ataf.
—Cyf. T. GWYNN JONES (Blodau o Hen Ardd).

UN dydd yn y Rhagfyr dilynol aeth Mili a Socrates allan am dro i un o barciau Melbourne. Ni chaniateid i gŵn redeg yn rhydd yn y parciau, felly yr oedd yn rhaid arwain Socrates. Madame D'Erville a wnai hynny fynychaf. Rhoddai Socrates esgus iddi i fynd allan, ac yr oedd yn gwmni ffyddlon iddi. Gwnai'r wib hir a gaent bob bore les i'r ddau. Weithiau, pan fyddai Madame yn brysur neu yn ddihwyl, cai Mili fynd yn ei lle.

Yr oedd Madame newydd fod yn edrych drwy'r trysorau a ddaethai gyda hi o Ynys Pumsaint pan ddaeth Mili a'r ffrwyn yn ei llaw i geisio Socrates. Ymhlith pethau eraill ar y ford fach yn ei hymyl yr oedd y rhuban glâs a'r enw Socrates mewn sidan coch arno. Yr oedd Mili'n hoff iawn o liwiau heirdd. Edrychodd gydag edmygedd ar y rhuban. Dywedodd Madame wrthi mai coler Socrates ydoedd ac mai ei enw ef oedd y gwaith edau a nodwydd oedd arno. Yna gofynnodd Mili a gai ei wisgo am wddf Socrates