Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/140

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

un drwy'r wythnos. Beth am prynhawn Llun? Bydd y ddwy wedi cael amser i gyfarwyddo â'i gwaith erbyn hynny."

"Deuwn prynhawn Llun," ebe Madame. awr, "Yn beth am Socrates? 'Rwy'n siwr y carech ei gael?"

O, nid wyf am ei ddwyn oddiarnoch. Yr ydych wedi ymserchu ynddo erbyn hyn," ebe Mrs. Angus.

O, rhoddaf ef yn llawen i chwi, er hoffed wyf ohono," ebe Madame.

"Dewch ag ef gyda chwi dydd Llun, Madame, os gwelwch yn dda. Cawn benderfynu eto neu caiff Soc benderfynu. A diolch yn fawr i chwi. Ond carwn gael y coler yn awr. O fy chwaer annwyl! Dyna hapus oeddem pan oeddwn i'n gwneud yr enw yna!"

A Socrates ddaeth â'r newydd cyntaf i chwi am eich chwaer!"

"Ie," ebe Mrs. Angus, a chofleidio'r ci bach, ac wylo, "daethost â gobaith a siom i mi."

Yr oedd Llew a Gareth a Myfanwy wrth eu bodd o gael treulio ychydig ddyddiau ym Melbourne, a bod yng nghwmni Madame unwaith eto. Ni welsent hi wedi'r ymadael yn Sydney ddeufis yn ôl. Cawsent lythyr oddiwrth Mr. Luxton o Port Said. Yr oedd yn rhy gynnar i gael llythyr oddiwrtho o'i gartref. Synasant glywed hanes Socrates a'i goler. Edrychent ymlaen at weld Mrs. Angus a'i gŵr. "A freuddwydiaist ti Myfanwy ddim rhywbeth am hyn?" ebe Gareth.