Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/141

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Naddo, ond breuddwydiais am Gwen neithiwr," ebe Myfanwy.

Distawodd Gareth ar unwaith. Wedi gweld galar a gofid ei dad a'i fam teimlai yntau yn fwy nag erioed o'r blaen ei alar a'i ofid ei hun o golli Gwen.

"'Rwy'n siwr bydd Mrs. Angus yn falch o gael yr oriawr yma. Mae'n dda gennyf i mi ddyfod â hi," ebe Myfanwy.

"Druan â Mrs. Angus! Byddai'n well iddi hi pe bai heb glywed hanes y Caro Carey, oni fyddai, Madame? ebe Llew.

"Byddai, efallai. Ond yr oedd yn rhaid cyfrif am Socrates a'i goler."

Daeth Mademoiselle D'Erville yn hoff iawn o'r tri. Hwy, meddai hi, a gadwasai ei mam yn fyw yn ystod y misoedd hir ar Ynys Pumsaint. Synnodd at eu medr i siarad Ffrangeg. Dyna'r pryd y daeth i wybod bod y Cymry'n rhai da am ddysgu ieithoedd. Dyna'n wir y tro cyntaf y gwybu fod y Gymraeg yn bod. Drwyddynt hwy daeth i wybod llawer am Gymru, a'i hiaith a'i phobl.

Daeth dydd Llun. Aeth Madame a'r tri a Socrates yn gynnar yn y prynhawn mewn cerbyd i dŷ Dr. a Mrs. Angus. Yr oedd yn dŷ hardd iawn yn un o ystrydoedd goreu Melbourne, a thair gris yn arwain at ei ddrws.

"Mae'r morynion wedi dyfod," ebe Myfanwy. "Edrychwch mor lân yw'r grisiau yma."

Canodd Madame y gloch. Agorwyd y drws gan ferch ieuanc fain, dál, mewn ffroc ddu, a ffedog fach