Gwirwyd y dudalen hon
wen o'i blaen a chap bach gwýn ar ei gwallt byr tywyll. Yn lle dywedyd ei neges, edrychodd Madame am funud ar Gareth ac yna yn ôl ar y forwyn, a llefodd.
"Ah! Mon Dieu! Mon Dieu!"
Y foment nesaf yr oedd y forwyn wedi rhedeg i lawr dros y grisiau i freichiau Gareth, a Llew a Myfanwy yn gafael yn dynn ynddi yr un pryd ac yn wylo dagrau o lawenydd.
Gwen oedd y forwyn fach!