Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/143

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

XXII

Ba enaid ŵyr ben y daith?
Boed anwybod yn obaith.
—R. WILLIAMS PARRY (Yr Haf).

EISTEDDAI Mrs. Angus yn yr ystafell fawr oedd â'i drws mawr gwydr yn wynebu ar yr ardd. Clywodd y gloch, a thybiodd glywed y drws yn agor. Pa le'r oedd yr ymwelwyr? Pa beth a wnaethai'r forwyn â hwy? Morwyn heb ddeall ei gwaith eto! Aeth allan i weld drosti ei hun. Yr oedd y drws yn agored, a'r forwyn ynghanol yr ymwelwyr, a golwg wyllt arnynt i gyd.

Brysiodd Madame D'Erville i egluro iddi. Aeth pawb i'r tŷ. A'r forwyn fach, yn ei chap a'i ffedog, oedd y person pwysicaf yn nhŷ'r doctor y prynhawn hwnnw.

Dywedodd ei hanes. Wedi'r ysgarmes ofnadwy yn y niwl pan aeth y Ruth Nikso ar y graig cawsai ei hun mewn cwch gyda thyrfa o rai eraill. Wedi bod am rai oriau yn hwnnw daeth llong i'r golwg. Cymerwyd hi i honno. Ni chofiai Gwen ddim am ei bywyd yn y llong. Yn wael ar wely y bu hi drwy'r amser. Bu pobl yn garedig iawn iddi. Cymerodd un