Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/145

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwaith ond gwaith tŷ. Cynghorwyd hi i roddi ei dodrefn i'w cadw, a chwilio am le fel morwyn. Atebodd hysbysiad yn un o bapurau Melbourne. Daeth yn forwyn fach i dŷ Dr. a Mrs. Angus dydd Gwener.

Gorffennodd fod yn forwyn fach y funud honno. Ni adai Mrs. Angus iddi weini wrth y ford. Cafodd eistedd gyda'r gwahoddedigion a chymryd rhan yn yr ymddiddan llawen a phrudd,—llawen am fod Gwen wedi ei chael; prudd am fod Mrs. Angus o hyd mewn galar ar ôl ei chwaer.

Tynnodd Myfanwy ei horiawr aur oddiam ei garddwrn a rhoddodd hi i Mrs. Angus, a dywedyd, a dagrau lond ei llygaid glâs:—

"Byddai'n dda gennyf pe gallwn roddi eich chwaer yn ôl i chwi."

Ysgwyd ei gynffon ar bawb a wnai Socrates a dilyn Madame. Hi oedd ei ffrind pennaf o hyd, ac yn ôl gyda hi y cafodd fynd.

Pwy all ddisgrifio teimladau teulu No. 17 pan aeth y plant adref—heb un ar goll? Wedi credu eu chwalu am byth, cawsant aduniad hapus—peth na ddaw i ran ond ychydig yn y byd hwn.

A beth am y pedwar erbyn hyn? Ai byw ar eu harian yn ddiog a dilês yw eu hanes? Ai cael ychwaneg o berlau a golud yw prif amcan eu bywyd?

Rhoisant eu harian i gyd i'w rhieni. Dyna bleser iddynt oedd cael gwneud hynny! A dyna bleser i'r rhieni oedd gweld teimlad da a pharch eu plant tuag atynt! Yr oeddynt yn falch ar y cyfoeth hefyd. Nid am y bwriadent ei ddefnyddio i geisio moethau