Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/146

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a phleserau a bywyd segur, ond am y medrent bellach roddi addysg dda i'w plant i'w cymhwyso i fod o wasanaeth i'w hoes. Dyna yw nod uchaf bywyd.

Felly mae'r pedwar yn y coleg. Pa lwybrau a ddewisant ar ôl gorffen eu gyrfa yno? Y mae Bywyd yn llawn o bosibilrwydd gogoneddus, ac y mae Awstralia'n gyfandir newydd a'i gyfleusterau'n ddi-hysbydd. Ac y mae Ynys Pumsaint o hyd yn y môr.