Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

II

Pob ystŵr, pawb a'i stori—
'Doedd neb mor ddedwydd â ni.
—SYR JOHN MORRIS JONES
(Cywydd Priodas).

Bu Llew a Myfanwy yn brysur iawn y Sadwrn hwnnw yn helpu eu mam i baratoi ar gyfer dyfodiad y dieithriaid. Gwnaeth Llew bopeth o'r tu allan i'r tŷ, y clôs, a thai'r anifeiliaid yn lân a threfnus. Bu Myfanwy yn ysgubo a golchi a thrwsio pethau o'r tu mewn. Aethai'r tad oddicartref i roddi dydd o waith ar ryw ffarm. Paratoi bwyd, yn bennaf, a wnai y fam. Yr oedd eisiau cael popeth yn barod erbyn y Sul. Ni fyddent byth yn gweithio na choginio ond cyn lleied ag a allent ar y dydd hwnnw.

"Gwrandewch ar y breuddwyd a gefais i neithiwr," ebe Myfanwy wrth ei mam a'i brawd pan oeddynt ar ginio. Yr oedd Myfanwy yn hoff o adrodd eu breuddwydion. Deuai rhai ohonynt i ben, meddai hi. Yr oedd llawer mwy heb ddyfod, felly ni roddai neb lawer o sylw iddynt ond Myfanwy ei hun.

"Gwelwn di, Llew, a Gareth a minnau yn byw mewn ogof. Yr oeddem heb esgidiau na hosanau, ac