Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yr oedd ein hwynebau a'n breichiau a'n traed yn felyn, felyn. Yr oedd bord yn yr ogof a llyfrau arni, a channwyll. Daeth pwff o wynt a diffoddodd y gannwyll. Yr oeddem yno yn y tywyllwch, a'r môr yn rhuo tuallan fel pe bai yn arw iawn. Nid wyf yn cofio dim rhagor, ond dyna freuddwyd eglur oedd! Yr wyf fel pe bawn yn clywed sŵn y môr yn awr."

"Pa le'r oedd Gwen?" ebe Llew.

"Nid oedd Gwen yno. Dim ond ni ein tri oedd yn yr ogof," ebe Myfanwy.

"Paid â darllen cymaint cyn mynd i'r gwely. Y mae'r pethau a ddarlleni yn troi yn dy ben, a dyna yw dy freuddwydion," ebe'r fam.

"O, mam! History of England Llew a fum i'n ei ddarllen neithiwr. Nid oes dim am ogof yn hwnnw," ebe Myfanwy.

Ychydig cyn amser te aeth y ddau am dro hyd ben y lôn ac i lawr hyd y pentref i edrych a welent y car poni yn dyfod o draw. Dacw ef ar waelod y rhiw! Chwyfiodd y ddau eu breichiau, a gweiddi. Atebwyd hwy o'r cerbyd. Neidiodd Gareth a Gwen i lawr, a rhedodd y ddeubar yn llawen nes cyfarfod â'i gilydd. Aethai dwy flynedd heibio er pan gyfarfuasent o'r blaen. Wedi ysgwyd dwylaw, prin y gwyddai neb o'r pedwar am ba beth i ddechreu siarad.

Arhosodd y car poni pan ddaeth i'w hymyl. Plygodd yr ewythr a'r fodryb i ysgwyd llaw â Llew a Myfanwy a'u cusanu. Llaeswyd y tafodau. Yn fuan iawn, siaradent bob un ar draws ei gilydd.