Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"O!" ebe Myfanwy, a chodi ar ei thraed, "Mi hoffwn ddod gyda chwi."

"A finnau!" ebe Llew. "Nhad a mam! Dewch!"

"O Sâra! A wyt ti am fynd mor bell oddiwrth dy unig chwaer?" ebe Mrs. Llwyd.

"Yr wyf am i chwi bob un ddod yno gyda ni," ebe Mrs. Rhys.