III
Penliniais:
Cleddais fy wyneb yn y mwsogl îr:
A dyna'm ffarwel olaf â santaidd ddaear fy mro.
—WIL IFAN (Bro Fy Mebyd).
YR oedd gan Ifan Rhys ddau frawd yn Awstralia. Ffarmwyr oeddynt hwythau. Dim ond wyth mlynedd oedd er pan aethent allan. Nid oedd ganddynt lawer o arian y pryd hwnnw. Erbyn hyn yr oeddynt yn berchen ar ffarm ddefaid fawr yn New South Wales. Cadwent lawer o weision a morynion. Dibriod oedd y ddau. Er ys amser bellach, ymhob llythyr a ysgrifennent at eu brawd, cymhellent ef a'i deulu i ddyfod allan atynt. Yr oedd yn Awstralia well cyfle i ddyfod ymlaen yn y byd nag oedd yng Nghymru. Byddai'r plant, yn anad neb, ar eu hennill o fynd yno. Caent fwy o le i ddewis cwrs eu bywyd. Byddai'r daith ei hun, a'r byw mewn gwlad a chyfandir newydd yn addysg ac yn brofiad gwerthfawr iddynt. Yr oedd yno alw am ffarmwyr, crefftwyr o bob math, masnachwyr, swyddwyr, athrawon a phregethwyr. Enillai hyd yn oed gweithwyr cyffredin o leiaf gymaint deirgwaith ag a wnaent yng Nghymru,