Felly yr ysgrifennid o Awstralia. Wedi pwyso a mesur y manteision a'r anfanteision yn ofalus, penderfynodd Ifan Rhys a'i deulu ymfudo. Byddent yn cychwyn eu taith hir yn nechreu Hydref. Hoffent fedru perswadio teulu Brynteg i ymuno â hwy. Hynny, yn bennaf, oedd pwrpas eu hymweliad.
Buwyd ar lawr yn hwyr y noson honno, ac, wrth gwrs, Awstralia oedd pwnc yr ymddiddan. Dyna falch oedd Gareth a Gwen y gellid erbyn hyn siarad yn rhydd am y peth. Yr oedd eu calonnau'n llawn wrth feddwl am yr antur a'r pleser oedd yn eu haros. Gwelent y dyfodol mewn lliwiau dengar iawn.
"Gweithio ar y ransh y byddaf i," ebe Gareth. Bydd yn rhaid gweithio'n galed ar y dechreu, wrth gwrs, ond deuwn yn gyfoethog yn fuan iawn. Edrych ar ôl y gweithwyr fydd fy ngwaith i wedyn, Byddaf yn mynd ar gefn ceffyl ar hyd y ffarm, a mynd i'r marchnadoedd i werthu gwlân a defaid."
"Athrawes fyddaf i," ebe Gwen. "Byddaf yn mynd i'r coleg i Melbourne, efallai, neu i Sydney."
"A yw pobl yn saethu'r cangarŵ?" gofynnai Llew.
"Wn i ddim beth am y cangarŵ," ebe Gareth, a blino am nad oedd yn ddigon siwr o'i ffeithiau i ateb yn bendant, "ond byddaf yn saethu'r oppossum, a gwerthu'r croen wedyn am arian mawr."
A'r emu hefyd, er mwyn y plu," ebe Gwen. "Beth yw emu?" ebe Myfanwy.
"Yr Australian Ostrich—estrys Awstralia," ebe Llew, cyn i Gareth na Gwen gael amser i ateb.