Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

IV

Am olud gwell y bell bau hiraethodd,
A'm bro adawodd am wybr y dehau.
—R. WILLIAMS PARRY (Yr Haf).

O SOUTHAMPTON y cychwynai'r llong. Yr oedd y daith tuag yno hyd yn oed yn brofiad newydd a dieithr i bob un o'r wyth teithiwr. Ni fuasai'r plant erioed ymhellach na Chaerfyrddin. Ni welsent erioed y Bau hardd, na simneau uchel Llanelli, na düwch Glandwr, na dim o ryfeddodau eraill y daith chwyrn. Ni fuasent erioed mewn trên a ruthrai fel hwnnw. Yn ffodus iawn, digwyddai dau ffrind i Mr. a Mrs. Rhys fynd i Lundain ar yr un adeg. Addawsant hwy fynd gyda'r cwmni hyd Southampton a'u gweld yn ddiogel ar fwrdd y llong.

Yr oedd yn dechreu nosi pan ddaethant allan o'r trên yn Llundain. Gorfu iddynt ruthro drachefn mewn trên a redai o dan y ddaear nes dyfod i orsaf Waterloo. Dyna orsaf fawr! Dyna drênau diddiwedd! Dyna dyrfaoedd a dyna derfysg! Wedi cael pryd o fwyd yno, i'r trên â hwy drachefn. Tua deg o'r gloch cawsant eu hunain ar fwrdd y llong yn Southampton. Anfonasent eu cistiau o'u blaen. Yr