oeddynt yno yn eu disgwyl, fel hen gyfeillion mewn gwlad ddieithr.
Cyn hir yr oeddynt yn eu hystafelloedd eu hunain. Yr oedd caban ar gyfer pob dau neu bob dwy ohonynt. Ystafelloedd bychain bychain oeddynt, a'r ddau wely, fel dwy silff, un uwchben y llall. Pan agorid un o'r ffenestri bychain crwn, clywid rhu y môr, a deuai cawod o ewyn i mewn yn awr ac yn y man. Siglai'r llong fel crud pan fo'r baban ar gysgu.
Wedi tipyn o gerdded ar y dec a syllu o'u cwmpas, ffarweliwyd â'r ddau ffrind, Dyna hwy bellach wrthynt eu hunain, yn rhan o deulu mawr y Ruth Nikso. Ni chychwynai'r llong am dair neu bedair awr arall. Yr oeddynt oll yn flinedig iawn ar ôl dydd mor gyffrous, felly da oedd ganddynt fynd i'w gwelyau cul i orffwys, ac os gallent, i gysgu.
Rywbryd, dihunwyd hwy gan dwrw anghyffredin, cerdded gwyllt ar y dec uwch eu pen, a bloeddio uchel. Gwelent y goleuadau o'r tu allan a'r llongau a'r cychod yn symud. Deallasant yn fuan mai hwy eu hunain oedd yn mynd. Swn dirwyn rhaff yr angor oedd y twrw a'u deffroisai. Yr oedd y fordaith fawr wedi ei dechreu.
Aeth tri diwrnod heibio cyn iddynt fod drachefn gyda'i gilydd ar y dec. Erbyn hynny daethai'r lliw yn ôl i'w hwynebau, gallent gerdded yn hŷ, ni wnai symudiadau'r llong un niwed iddynt, a medrent chwerthin am brofiadau'r dyddiau cyntaf ar y môr. Dyna hwy wedi croesi Bau Biscaia sydd mor enwog am ei stormydd, heb wybod mai arno yr oeddynt. Bellach, gwelent greigiau moelion Portugal ar eu