De-Orllewin oedd ar ddyfod, un olaf y tymor, yn ddiau, ac felly un o'r ffyrnicaf. A oedd yn bosibl, drwy yrru'r llong â'i chyflymder pennaf, fynd allan o lwybr y storm? Os nad oedd hynny'n bosibl, gwae hwy! Er cystal llong oedd y Ruth Nikso, sut gallai hi wynebu'r dymestl a byw?
Daeth ar eu gwarthaf yn sydyn, tua chanol nos. Yn lle'r distawrwydd cynt, ni chlywai neb leisiau ei gilydd gan ru ofnadwy'r gwynt, ac ergydion y tonnau dig. Nid ymysgwyd yn fwy neu lai rheolaidd a wnai'r llong bellach, ond neidio a gwingo fel creadur gwallgof. Teflid dillad, esgidiau, cadeiriau, a chistiau yma a thraw ar hyd y cabanau. Yn gymysg â rhu'r gwynt a'r môr deuai twrw byddarol o'r dec yn awr ac eilwaith,—sŵn llawer o ddyfroedd, a sŵn pethau trwm yn syrthio. Pan ddaeth y bore, yr oedd y Ruth Nikso filltiroedd lawer allan o'i chwrs, yn rhuthro'n wyllt o flaen y gwynt i gyfeiriad y Gogledd—Ddwyrain.
Parhaodd y storm am dri niwrnod, yna tawelodd mor sydyn ag y daethai. Yn fuan iawn wedyn daeth arnynt beth a ofna morwyr yn fwy na gwynt na thón. Daeth niwl tew dros bob man nes gwneud canol dydd yn waeth na chanol nos.
Yr oedd llawer o'r teithwyr yn llawen am fod y storm drosodd, heb wybod fod eu perigl yn fwy yn y niwl. Rywbryd wedi oriau o ymbalfalu, digwyddodd y gwaethaf. Trawodd y llong, gydag ergyd ofnadwy, yn erbyn craig.
O, dyna lle bu gweiddi a chrio a rhuthro gwyllt. Gan fod y llong wedi mynd o flaen y storm, yr oedd