Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y cychod wedi eu harbed. A geid amser i fynd iddynt cyn i'r Ruth Nikso fynd o'r golwg yn y dyfnder?

Nid oedd modd cadw trefn pan na welai neb lathen o'i flaen. Wedi munudau oedd yn ddigon ofnadwy wneud y mwyaf pwyllog yn wallgof, cafodd Llew a Myfanwy a Gareth eu hunain gyda thyrfa gymysg mewn cwch. Ni wyddent pwy oedd eu cwmni. Pa le yr oedd eu rhieni? Pa le yr oedd Gwen? A oedd yn werth cael eu hachub a cholli'r lleill? A welent ei gilydd eto? I ba le yr aent?