VI
'Roedd rhyw law a dan y gwaelod,
fel tae anweledig beiriant
Yn ein gwthio drwy'r llifeiriant,
yn ein llithio o hyd yn nes,
Nes at ynys ar y gorwel,
werdd yn goron ar y glasddwr ;
'Roedd hi'n gorwedd yn ei basddwr,
gyda'i chwrel wrth ei throed,
Ninnau'n sýn fel rhai mewn breuddwyd.
—W. J. GRUFFYDD (Ynys yr Hud).
Yr oedd y niwl yn gwmwl tew am danynt o hyd. Ni welent na'r llong nag un o'r cychod eraill. Aethant hefyd, heb yn wybod iddynt, o glyw pawb a phopeth. Gwaeddodd y rhwyfwyr lawer gwaith er mwyn ceisio gwybod pa le yr oedd y lleill, a chadw gyda'i gilydd os oedd hynny'n bosibl. Ni chaed ateb o unman. Gellid meddwl mai'r cwch hwnnw oedd yr unig un ar wyneb y môr mawr.
Yr oedd y gwynt a'r tonnau wedi tawelu cryn dipyn erbyn hyn, ond yr oedd twrw a chyffro enbyd yn y cwch. Nid pob un a fedr fod yn dawel mewn enbydrwydd. Yr oedd tuag ugain o bobl ynddo