Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/41

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

am y niwl a'r lleithter? Aeth rhai yn wallgof, a thaflu eu hunain dros ochr y cwch yn fwyd i'r môrgwn parod a wyliai eu cyfle yn y dyfnder clir. Bu Natur yn fwy caredig tuag at eraill. Gwnaeth iddynt gysgu a hanner llewygu. Ai'r cwch yn ei flaen neu yn ei ôl, fel y mynnai'r llif a'r llanw.

Rywbryd, dihunwyd Llew o gwsg neu o lewig gan waedd annaearol. Ar yr un foment disgynnodd un o'r rhwyfau gydag ergyd ofnadwy tua modfedd oddiwrth ei ben, a neidiodd rhywun,—un o'r morwyr ydoedd dros ben blaen y cwch i'r môr. Cododd Llew ar ei draed. Edrychodd o'i amgylch. Pa le yr oedd y dyrfa a ddechreuodd eu taith yn y cwch? Nid oedd ond nifer fach iawn ar ôl. Gorweddent ar draws ei gilydd yng nghornel y cwch. Cyn iddo gael amser i edrych pa sawl un oedd yno, a phwy oeddynt a sut oeddynt, daeth rhywbeth arall i'r golwg oedd ar y pryd yn fwy pwysig na dim arall.

Yr oedd y cwch yn neshau at ryw dir. Gwelai'r coed gwyrdd ar y llethrau. Tir! Aeth gwefr drwy galon Llew wrth ei weld. Rhyngddo ag ef, a chryn dipyn o bellter o'r lán, gwelai'r môr yn torri'n wýn yn erbyn rhywbeth. Cofiodd beth a ddarllenasai am Ynysoedd Môr y De. Y mae rhibyn uchel o gwrel o gylch y rhan fwyaf ohonynt. Tu mewn i'r rhibyn y mae'r môr yn dawel, bydded arwed ag y bo o'r tu allan. Y lagŵn yw'r lle tawel. Gwyddai hefyd fod bwlch rywle lle y gellid mynd i mewn i'r lagŵn. Yr oedd rhwyfau ar waelod y cwch. Cydiodd mewn dau ohonynt a rhoddodd hwy yn eu lle. Gwaith dieithr iddo