Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/42

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd rhwyfo, ond dysgir yn gyflym mewn caledi. Yr oedd y môr yn weddol llyfn, a da iawn iddo ef oedd hynny. O, dyna falch oedd pan ddaeth i fedru symud y cwch wrth ei ewyllys. Ond gwaith caled oedd rheoli'r cwch ac edrych am y bwlch yn y graig. Gallai rhai o'r lleill ei helpu pe baent yn effro.

Gwaeddodd arnynt lawer gwaith, ond yr oedd ei gefn tuag atynt, ac ni chlywodd neb yn ateb nac yn symud. Gobeithiai fod Gareth a Myfanwy yno ac yn fyw. Beth os mai ef ei hunan oedd yn fyw yn y cwch!

O! dacw'r bwlch. Cariwyd ef gan dón fechan i mewn yn esmwyth i le tawel fel llyn. Rhwyfodd nes dyfod at y traeth gwýn, disglair. Trawodd y cwch. y gwaelod. Neidiodd Llew allan, a thynnodd ef gymaint ag a fedrai allan o gyrraedd y llanw. Taflodd ei hun i lawr ar y tywod caled. Syllodd yn sýn o'i flaen, fel un mewn breuddwyd.