Llanwodd y bocs drachefn. I fyny yn y coed, ar fin y nant, gwelodd rywbeth a wnaeth i'w galon lamu. Brysiodd yn ôl. Gwaeddodd cyn cyrraedd y cwch:—
"A oes cyllell yn dy boced di, Gareth?"
"Oes," ebe Gareth.
"Rho'i benthyg i mi am funud Dôf yn ôl yn union. O, yr wyt yn well, Myfanwy. Dyma i ti ddŵr hyfryd."
Ymddangosai'r amser yn hir iawn cyn iddo ddychwelyd, er na fu ond rhyw chwarter awr o'r fan. Digwyddodd pethau yn ei absenoldeb. Aeth Gareth ddwywaith â'r bocs tin at y nant. Trwy ei ymdrechion ef yr oedd y dyn a'r fenyw oedd yn y cwch yn graddol ddyfod atynt eu hunain.
Eisteddai'r dyn a phwyso'i ben ar ei ddwy law. I olwg y bechgyn, ymddangosai'n hen iawn. oedd ei wallt yn wýn fel arian, er bod blew ei wefus a'i aeliau yn hollol ddu. Yr oedd y wraig yn hynach fyth. Yr oedd hithau wedi hanner codi. Estynnai ei breichiau allan, a llefain:—
"De l'eau! Encore de l'eau! S'il vous plaît! Ah, merci!"
Tybio'n unig a wnaeth Gareth mai dŵr a geisiai, oherwydd ni wyddai ef air o Ffrangeg.
Ar hynny, daeth Llew, yn cario baich mawr o fananau melyn, aeddfed,—fel mam aderyn yn cario bwyd i'w rhai bach diamddiffyn yn y nyth.
"O!" ebe pob un ohonynt ag un llef.
Dyna fwyta'n awchus a wnaethant! Gall bananau a dŵr fod yn bryd blasus iawn ambell waith. Siriolodd