Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/46

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

pawb. Daeth hyd yn oed y wraig a Myfanwy i fedru eistedd a siarad. Dechreuasant ddywedyd eu hanes wrth ei gilydd.

Sais oedd Mr. Albert Luxton. Ysgolfeistr ydoedd yn un o drefi mawr canol Lloegr. Rhoisid iddo chwe mis o seibiant o'r ysgol fel y gallai gymryd mordaith i Awstralia er mwyn adnewyddu ei iechyd. Yr oedd wedi gwella llawer eisoes cyn torri o'r llong. Beth a ddeuai ohono mwy? Ei ofid pennaf oedd meddwl am ei wraig a'i ddau blentyn yn Lloegr, a'u pryder am dano'n cynhyddu bob dydd, ac yntau heb fedru ysgrifennu atynt na rhoddi dim o'i hanes iddynt.

Ffranges oedd y wraig—Madame D'Erville o Bordeaux. Gwraig weddw ydoedd. Yr oedd ei merch yn athrawes yn un o golegau Melbourne. Mynd allan i fyw ati hi oedd ei bwriad. Ei morwyn oedd ei hunig gwmni. Daethai honno i'r cwch fel hithau. Pa beth a ddaethai ohoni ni wyddai. O, paham y gadawsai Ffrainc?

Er y medrai Mr. Luxton ddeall Ffrangeg o lyfr, ni fedrai ei deall pan siaredid hi yn gyflym, ac ni ddeallai'r tri phlentyn ond ambell air ohoni. Medrai Madame D'Erville ychydig Saesneg, felly mewn rhyw gymysg o Saesneg a Ffrangeg y rhoddodd ei hanes. Rhoddodd Llew a Gareth eu hanes hwythau. Hanes trist oedd ganddynt i gyd. Wylodd pob un ohonynt am ychydig. Dawnsiai'r awel yn y dail gwyrdd tywyll gerllaw iddynt. Torrai'r môr glas gyda miwsig tyner ar y tywod gwýn disglair. Gwenai'r haul yn fwyn wrth neshau at y gorwel.