Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Ah! Mon Dieu!" ebe Madame. Husband gone, Marie gone. Me old, no friends, nobody, nothing, why me safe."

"Cawsoch eich achub er mwyn bod yn fam i mi," ebe Myfanwy.

"Ah! Chère petite orpheline!" ebe Madame, a rhoddi ei breichiau am wddf Myfanwy a'i chusanu. Heb eiriau, seliodd y ddwy gyfamod i fod yn ffyddlon i'w gilydd pa beth bynnag a'u harhosai.

Er mai digon gwan oedd Madame a Myfanwy, barnwyd mai gwell oedd iddynt ddyfod allan o'r cwch. Yr oedd yn lanach ac yn iachach ar y tir. Wedi iddynt oll lanio, dywedodd Mr. Luxton:—

"Gadewch i ni fynd ar ein gliniau i ddiolch am ein gwaredigaeth."

Penliniodd y pump, a gweddiodd Mr. Luxton yn syml fel hyn:—

Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd. Diolch i Ti am weld yn dda ein cadw ni'n fyw. Ein Tad wyt Ti. Gad i ni gofio hynny o hyd. Ni wyddom ni paham yr arbedaist ni. Ni wyddom ddim am y lle hwn y daethom iddo, ond gwyddom Dy fod Di yma. Yr ydym yn Dy fyd Di o hyd. Yr ydym yn Dy olwg. Dymunem roddi ein hunain yn Dy ofal. Edrych arnom bob un. Arwain ni. Os na chawn eto weld ein rhai annwyl, helpa ni i deimlo'n fodlon. Ac O! bydd yn gysur iddynt hwythau, os ydynt yn fyw ac mewn pryder am danom. Gad