Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i ni deimlo dy fod Di yn agos atom bob amser ac ym mhob lle. Amen.

Wedi hynny, tynnodd Mr. Luxton a'r ddau fachgen y cwch yn uwch i fyny o gyrraedd y llanw. Yr oedd yr haul yn neshau at y gorwel. Gwyddent nad oedd cyfnos yn y rhan honno o'r byd. Wedi machlud haul deuai'r nos ar unwaith. Rhaid oedd paratoi rhyw fath o le i orffwys dros y nos. Aeth y tri eto i fyny i'r coed. Daethant yn ôl yn fuan â baich o frigau a dail mawr llydain. Ni fuont yn hir cyn gwneud rhyw fath o gaban drwy blannu'r brigau yn y ddaear a phlygu'r pennau at ei gilydd. Rhoisant ddail ar y tó a digon o ddail ar y llawr. Cafodd Madame D'Erville a Myfanwy yr adeilad hwnnw iddynt eu hunain. Ar wely o ddail yng nghysgod y palmwydd coco y gorffwysodd Mr. Luxton a Gareth a Llew. Cysgodd y pump yn drwm hyd y bore.