Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i'r pump am amser hir. Tyfai'r palmwydd coco ym mhobman, hyd yn oed ar ymyl y traeth. Coed tál iawn ydynt, a'u dail a'u ffrwythau yn uchel ar y brig. Yr oedd digonedd o'r cnau aeddfed ar y llawr o dan y coed. Casglodd y bechgyn nifer ohonynt er na wyddent yn iawn pa beth i wneud â hwy, a rhedasant tua'r gwersyll.

Yr oedd y tri eraill wedi codi o'u gwelyau, wedi ymolchi, ac wedi gwneud eu hunain mor drefnus ag y gallent. Rhedodd Myfanwy i gyfarfod â hwy.

"O fechgyn, pa le y buoch chwi?" ebe hi.

"Yr oeddwn i'n dechreu ofni fy mod wedi eich colli chwithau hefyd."

"Codasom gyda'r wawr, cawsom fath yn y môr, rhedasom ar y traeth, aethom i'r coed, a daethom â brecwast yn ôl i chwi," ebe Gareth, fel pe bai yn darllen o lyfr.

Croesawodd Madame hwy â llawer o eiriau ac ystumiau. Ychydig o'r geiriau a ddeallodd y bechgyn, ond gwyddent mai geiriau croesaw oeddynt.

"O fechgyn da!" ebe Mr. Luxton. "Y mae cnau coco gennych! Cawn hufen heddyw gyda'n bananau. Nid drwg brecwast a fydd hynny.'

Saesneg wrth gwrs a siaradai Mr. Luxton, a Saesneg a siaradai'r plant ag ef. Defnyddiai Madame eiriau Saesneg yn gymysg â'i Ffrangeg. Cymraeg a siaradai'r plant â'i gilydd, ond pan fyddai'r ymddiddan rhyngddynt i gyd, siaradent Saesneg â'i gilydd hefyd, er mwyn y lleill. Er ieuenged oeddynt, yr oeddynt o