Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

flaen y ddau arall yn hyn. Medrent wneud defnydd da o ddwy iaith.

Gwnaeth Mr. Luxton dwll yn un o'r cnau â chyllell Gareth, a daeth allan hylif tebig i hufen. Arllwysodd ychydig ohono ar rai o'r bananau a chafodd pawb ei brofi. Barnent bob un ei fod yn rhagorol. Gwyddai Mr. Luxton ei fod yn faethlon. Y gwaethaf oedd nad oedd ganddynt lestri i fwyta eu bwyd yn drefnus, ond mwynhasant ef yn fawr, a chawsant lawer o ddifyrrwch.