IX
Lle nad oedd fedd na deilen wyw,
Na nam ar ddim, na chwyn, na chri,
Hyfrytaf gwlad y gwledydd oedd,
Ac nid oedd enw arni hi.
—CRWYS (Yr Awr Aur).
"DYNA bryd da i ddechreu'r dydd," ebe Mr. Luxton, "ond daw eisiau bwyd arnom eto ymhen ychydig oriau, ac ni allwn fyw ar fananau a hufen o hyd, er cystal ydynt."
"O, mi hoffwn i gwpanaid o goffi," ebe Madame, a chodi ei dwylaw a'i hysgwyddau, a gwneud hanner gwên a hanner gŵg ar ei hwyneb.
"Hoffwn innau gwpanaid o de," ebe Myfanwy, a gwenu'n swil. Yr oedd y ddwy wedi ymadfywio'n rhyfedd ar ôl eu noswaith o orffwys.
"Pwy ŵyr na chaiff pob un ohonoch ei dymuniad heb fod yn hir," ebe Mr. Luxton. "Y mae pethau rhyfedd yn tyfu yn y rhan hon o'r byd."
"Pa le yr ydym, syr?" ebe Gareth.
"A! Dyna gwestiwn!" ebe Mr. Luxton.
A ydych chwi yn meddwl mai ar ynys yr ydym?" ebe Llew.