Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/56

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

sydd gennych yn eich pocedi, fechgyn? A oes rhywbeth defnyddiol gennych chwithau Madame a Myfanwy? Y mae'n bwysig i ni wybod pa stoc sydd gennym.'

Dygodd pob un ei drysorau i'r amlwg.

Yr oedd gan Llew siswrn bach a chyllell fach, darn hir o gortyn, Beibl Cymraeg, dyddiadur a gawsai yn anrheg Nadolig gan ei dad, tri phensil, atlas, crib, botwm corn, hanner coron a thair ceiniog.

Cyllell boced fawr gref oedd gan Gareth, amryw ddarnau o bensilion, india—rubber, llyfr bychan ac ynddo amryw ddarluniau o waith Gareth ei hun,— llun capten y Ruth Nikso, lluniau ei dad a'i fam, ei ewythr a'i fodryb, ei chwaer, ei gefnder, a'i gyfnither, a lluniau eraill o deithwyr y Ruth Nikso,—a phum ceiniog.

Gan Mr. Luxton yr oedd oriawr aur, cas bychan lledr ac arian nodau ynddo, deuswllt a naw ceiniog a Beibl Saesneg.

Nid pocedi oedd gan Madame D'Erville a Myfanwy, ond bagiau. Yr oedd drych tu mewn i glawr un Madame. O arferiad, edrychodd yn y drych cyn dechreu dangos cynhwysiad y bag. Nid oedd ganddi hithau ddim a fyddai o wasanaeth mawr,—pwrs a rhywfaint o arian ynddo, dwy fodrwy hardd, potel o berarogl, a dau gadach poced. Yr oedd cadach poced gan bob un o'r lleill hefyd, wrth gwrs.

Ym mag bach Myfanwy yr oedd câs bychan yn cynnwys nodwyddau bach a mawr, pinnau, gwniadur, edau a siswrn; câs bach arall a chrib a drych ynddo.

"O dyma bethau gwerthfawr!" ebe Mr. Luxton.