Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/57

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cododd Madame ei dwylo.

Trysorau pennaf Myfanwy oedd y ddau gâs hynny. Cawsai hwy ar ei dydd pen blwydd diwethaf. oedd ganddi hefyd ddarlun pedair modfedd ysgwâr o Frynteg, a'i thad a'i mam a Llew a hithau yn sefyll o flaen y tŷ. Tynesid ef yr haf hwnnw cyn dechreu gwasgaru dim. Wrth edrych arno'n awr, llanwodd llygaid Myfanwy. Rhoddodd un gip ar Llew. Yr oedd ei lygaid yntau'n llawn. Syrthiodd y ddau ar yddfau ei gilydd ac wylo'n hidl. Wylai'r lleill wrth edrych arnynt. Am funud ni chlywid dim ond wylo yn gymysg â si ysgafn y môr.

"Chwi yw'r ddau mwyaf ffodus ohonom," ebe Mr. Luxton.

"Ie, yr ydych gyda'i gilydd," ebe Gareth. "Yr wyf i heb neb."

"Mon Dieu! Mon Dieu!" ebe Madame.

"Ond rhaid i ni wneud y goreu o'r gwaethaf," ebe Mr. Luxton. "Y mae ein bywyd gennym. A ydym yn ddigon diolchgar am hynny? Y mae llawer yn gorfod byw heb eu rhai annwyl. Rhaid i ninnau wneud yr un peth. Rhaid i bob un ohonom wneud ei fywyd yn werth ei fyw, hyd yn oed yma, ymhell oddiwrth bawb. Y mae Duw yn agos atom yma, ac yn gwylio drosom."

Os mai'r plant oedd y cyntaf i wylo, hwy oedd y cyntaf i sychu eu dagrau hefyd. Ni allent fod yn drist yn hir mewn lle mor hardd.

"Peidiwch â cholli dim o'r pethau sydd gennych. Ni wyddom pa bryd y deuant yn ddefnyddiol," ebe