Tudalen:Breuddwydion Myfanwy.djvu/84

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

XIII

Dihunai f'ofn o dan f'ais, yna fel
Rhyw ofnus awel araf nesheais.
—R. WILLIAMS PARRY (Yr Haf).

Pysgod mawr yn gweu drwy'i gilydd
Yn nhawelwch du yr eigion.
—W. J. GRUFFYDD (Ynys yr Hud).

DIHUNWYD Mr. Luxton a Madame a Myfanwy bore drannoeth gan arogl pysgod yn rhostio.

"Cwyd, Myfanwy! Dere i wneud brecwast. Y mae'r tegell yn berwi," ebe Gareth.

Gwelai Myfanwy yn ei meddwl ford a lliain gwýn arni, llestri glân, te twym, bara menyn. Cododd ar unwaith ac aeth i weld pa syndod oedd gan y bechgyn iddi.

Yr oedd y ddau wedi bod yn brysur iawn. Codasent gyda'r wawr, a mynd i bysgota. Yna gwnaethai un dân, a'r llall yn glanhau'r pysgod. Pan ddaeth y tri eraill at y ford yr oedd brecwast hyfryd yn barod ar eu cyfer,—pysgod, bara ffres, digon o ffrwythau, a llaeth neu lemonêd. Medrodd hyd yn oed Madame fwynhau'r pryd cystal â phe bai'r llestri ceinaf a'r