llieiniau meinaf o'i blaen. Rhoddai awyr yr ynys archwaeth dda iddynt bob un.
Yr oedd mordaith o'u blaen. Yr oeddynt bob un mor llawn o wefr a chyffro â phe baent yn mynd ar y môr am y tro cyntaf yn eu bywyd. Rhag ofn na fyddai bwyd yn eu cyrraedd ar y daith, aethant â stoc o ffrwythau a llond y bocs tin o ddŵr gyda hwy yn y cwch. Rhoddodd y bechgyn nifer o ddail bananau i mewn hefyd i fod yn gysgod rhag yr haul. Cymerodd Mr. Luxton un rhwyf a'r ddau fachgen y rhwyf arall bob yn ail. Madame oedd wrth y llyw.
Fel y gwelsom eisoes yr oedd eu gwersyll hwy yn agos at enau'r afon fach ac yn wynebu ar y Gorllewin. Aethant oddiyno tua chyfeiriad y Gogledd. Cadwasant mor agos ag y gallent i'r tir. Mewn rhai mannau plygai'r palmwydd cnau a choed eraill uwchben y dŵr. Pe dewisent, gallent dynnu cnau ac afalau a bara heb lanio. Gwelsant yn fuan fod yn rhaid iddynt fod yn ofalus iawn er fod y lagŵn mor dawel. Yr oedd eu cwch yn fawr. Rhaid oedd gofalu peidio â mynd i le rhy fâs yn agos at y tir. Ni feiddient chwaith fynd yn rhy agos at y rhibyn, rhag bod creigiau cwrel llym o'r golwg yn y dŵr. Dilynid hwy gan dyrfa o wylanod yn crio'n groch. Efallai na welsai'r gwylanod hynny o'r blaen greadur mor fawr â'r cwch yn nofio ar wyneb y lli.
Wedi tuag awr o rwyfo daethant at lecyn bychan clir. Darn tri chornel ydoedd, tuag ugain troedfedd o lêd gyda'r traeth a thua'r un pellter i'r big uchaf,